Ein Hanes
O’r merched gad welediad – yn y Parc
Ganwyd perl o fudiad,
A rhain sy’n rhoi arweiniad
Yn glir dros ryddid ein gwlad.
Emrys Jones
Sefydlwyd Merched y Wawr ym 1967 yn y Parc ger y Bala.
Ym mis Rhagfyr 1966 ymwelodd swyddogion Sefydliad y Merched, Meirionnydd, â changen Y Parc am eu bod yn anfodlon fod y gangen wedi anfon erthygl i’r Cymro yn beirniadu Sefydliad y Merched. Y feirniadaeth oedd fod y W.I. yn anfon papurau swyddogol uniaith Saesneg i ganghennau a gynhaliai eu holl weithgareddau drwy gyfrwng y Gymraeg. Cwynai’r erthygl hefyd am nad oedd gair o Gymraeg yn y ‘North Wales Edition’ o gylchgrawn y mudiad hwnnw.
Yn y cyfarfod yn Y Parc eglurwyd i’r aelodau mai mudiad Saesneg oedd y W.I. ac yna awgrymwyd, os nad oeddynt yn fodlon perthyn i fudiad Saesneg, y dylid cau’r gangen a throsglwyddo’r papurau swyddogol i swyddogion y sir. Er nad oedd merched y Parc ar y dechrau wedi bwriadu torri i ffwrdd o’r W.I. teimlent nad oedd ganddyn nhw fawr o ddewis dan yr amgylchiadau heblaw derbyn yr awgrym a gweithredu yn unol â hynny.
Y noson honno penderfynwyd cychwyn cymdeithas newydd i ferched Cymru fyddai’n rhoi lle urddasol i’r Gymraeg. Yn ystod gwanwyn 1967 y bwriad oedd cychwyn ymgyrch yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Bala yn Awst, ond cyn hynny rhaid oedd cael ychydig o arian wrth gefn. Yn Ffair Glame yn nhre’r Bala roedd stondin gan ferched Y Parc i godi arian, ac fe holodd y diweddar Meirion Jones, prifathro’r Ysgol Gynradd, beth oedd diben y stondin. Wedi clywed yr hanes, fe gysylltodd yn syth â’r wasg a’r cyfryngau, a gwnaed y bwriad yn gyhoeddus ar Fai 15fed. O fewn wythnos roedd cangen arall o Ferched y Wawr wedi’i sefydlu yn Y Ganllwyd gyda rhyw 34 o aelodau.
Y ddwy gangen arloesol hyn a aeth yn gyfrifol am drefnu Pabell Merched y Wawr ar faes yr Eisteddfod yn Y Bala ac am gynnal cyfarfod cyhoeddus ar y Maes. O ganlyniad uniongyrchol i’r cyfarfod hwnnw, fe gododd llawer iawn o ganghennau ledled Cymru a chyn bo hir fel drefnwyd Pwyllgorau Rhanbarth.
Ym mis Rhagfyr 1967 bu cynhadledd Genedlaethol yn Aberystwyth. Fe dyfodd y Mudiad fel caseg eira, ond nid heb lawer o waith trefnu gan ferched Y Parc.
Y swyddogion cyntaf oedd:
Ysgrifennydd – Zonia Bowen
Llywydd – Gwyneth Evans
Trysorydd – Kitty Edwards
Llywyddion Anrhydeddus y Mudiad:
Gwyneth Evans 1970 – 1992 (m)
Zonia Bowen 1972 – 1975 (ym)
Marged Jones 1995 – 2008 (m)
Trefnyddion y Mudiad:
Mair Elvet Thomas 1982 – 1984
Mererid James 1984 – 1994
Eleri Non Griffiths 1994 – 1998
Tegwen Morris 1999 – Presennol

Yn 1992, cafwyd dathliad arbennig ar achlysur 25 mlynedd Merched y Wawr yn Y Parc. Cafodd Cwilt arbennig ei bwytho gan aelodau Merched y Wawr o dan gyfarwyddyd Joyce Jones. Mae’r cwilt bellach wedi ymgartrefi yn y Ganolfan Genedlaethol yn Aberystwyth. Daeth aelodau o bob cwr o Gymru ynghyd i orymdeithio drwy strydoedd y Bala cyn dadorchuddio plac ar fur Ysgol y Parc i nodi’r dathliad.
Yn 1994 aethpwyd ati i sefydlu Clybiau Gwawr er mwyn denu aelodau ieuanc i’r Mudiad. Sefydlwyd y Clwb Gwawr cyntaf ym Mlaenau Ffestiniog yn y Gogledd ac yng Ngwendraeth yn y De.
Agorwyd Canolfan Genedlaethol Merched y Wawr yn Aberystwyth yn y flwyddyn 2000 ac fe wnaethpwyd baner newydd gan Llinos Roberts o Ranbarth Colwyn sydd i’w gweld yno.
Erbyn heddiw, mae dros 230 o Ganghennau a 40 o Glybiau Gwawr ledled Cymru a thu hwnt gyda dros 6,000 o aelodau yn perthyn i Fudiad Merched y Wawr.
Cyn-lywyddion Cenedlaethol
1968 - 1980
1968 – 1970 – Gwyneth Evans (m. Hydref 1992)
1970 – 1972 – Marged Jones
1972 – 1974 – Beti Hughes (m. Awst 1981)
1974 – 1976 – Sioned Penllyn (m. Mehefin 2004)
1974 – 1976 – Eleanor Glyn Thomas
1976 – 1978 – Wendy Richards (m. Mai 1999)
1978 – 1980 – Jennie Eirian Davies (m . Mai 1982)
1980 - 1990
1980 – 1982 – Megan Creunant Davies (m. Chwefror 2005)
1982 – 1984 – Rebecca Powell (m. Ionawr 1993)
1984 – 1986 – Eirlys Peris Davies(m. Medi 2007)
1986 – 1988 – Eirlys Lewis Evans(m Hydref 2010)
1988 – 1990 – Margarette Huws
1990 - 2000
1990 – 1992 – Mair Penri Jones
1992 – 1994 – Nan Lewis
1994 – 1996 – Rhianwen Huws Roberts
1996 – 1998 – Valerie James (m. Rhagfyr 2014)
1998 – 2000 – Sylwen Davies
2000 - 2010
2000 – 2002 – Catrin Stevens
2002 – 2004 – Gwyneth Morus Jones (m. Rhagfyr 2012)
2004 – 2006 – Glenys Thomas
2006 – 2008 – Mary Price
2008 – 2010 – Esyllt Jones
2010 - 2020
2010 – 2012 – Mererid Jones
2012 – 2014 – Gill Griffiths
2014 – 2016 – Meryl Davies
2016 – 2018 – Sandra Morris Jones
2018 – 2021 – Meirwen Lloyd