Hafan > Prosiectau'r Llywydd
Prosiectau'r Llywydd
PROSIECTAU MEIRWEN LLOYD – LLYWYDD CENEDLAETHOL 2018-2020
Prosiect 6000
‘Diogelu’r blaned i blant ein plant, gyda’n gilydd fe wnawn wahaniaeth’
Byddwn yn cyd weithio gyda Cadw Cymru’n Daclus i gasglu 6000 o fagiau sbwriel!

Mae cyfnod y casglu yn parhau hyd at 30ain o Dachwedd 2019. Rhowch wybod i ysgrifennydd eich cangen neu gysylltydd clwb y nifer o sachau sydd wedi eu casglu a byddwn yn gofyn am y cyfanswm cyn 22ain Tachwedd, cyn y Ffair Aeaf yn Llanelwedd 2019. Gofynnir i chi waredu’r sbwriel/bagiau ailgylchu yn y Ganolfan Ailgylchu neu gyda’r casgliad sy’n dod o amgylch eich tai.
Dyma ychydig o nodiadau gan Meirwen ar gyfer y rhai sydd yn casglu:
- Fy ngobaith i fel Llywydd yw casglu 6000 o fagiau ar draws ein Rhanbarthau sef bag ar gyfer pob aelod.
- Dwi’n gobeithio ymweld â phob rhanbarth yn ystod y ddau ddigwyddiad yma a drefnir gan Cadwch Gymru’n Daclus i fod yn rhan o’r casglu:
- Glanhau’r Gwanwyn: 22 Mawrth 2019 – 21 Ebrill 2019
- Glanhau’r Traethau: Medi 2019
Gofynnir i aelodau sydd yn gallu cynorthwyo yn y prosiect i
- Fynd fesul dwy, tair neu bedair i ysgafnu’r gwaith (un i gasglu deunyddiau ailgylchu e.e. caniau neu blastig ag un i gasglu sbwriel)
- Weithio o fewn canllawiau perthnasol Cadwch Gymru’n Daclus
- Beidio codi eitemau amheus neu beryglus e.e. chwistrelliadau – dyma’r rhif i gysylltu – 0808 808 2276 (drugslitterline.org.uk) lle cewch siarad ag aelod o staff profiadol
- Fod yn ofalus a doeth wrth gasglu (dim ger y draffordd na ffyrdd heb balmant)
- Ddefnyddio’r offer cywir:
- Gwasgod felen lachar
- Menig pwrpasol cryf i arbed eich dwylo
- Picwarch fechan neu gasglwr coes hir
- Bagiau i ddal yr holl gasgliadau (hyn yn ddibynnol ar ganllawiau ailgylchu awdurdodau lleol eich Rhanbarth)
Pob hwyl gyda’r casglu
PROSIECTAU MERYL DAVIES – LLYWYDD CENEDLAETHOL 2014-2016
Dyma’n nôd, yn syml ddigon –
“Ategolion at y Galon”
Mwclis, sgarffie,
Broits a beltie,
Cliriwch ddrorie, – Rhowch yn Rhadlon.
Gaynor Roberts, Cangen Mawddwy
Bydd CALON a’r lythyren C yn bwysig dros y ddwy flynedd nesaf gan fod Meryl Davies, Llywydd Cenedlaethol wedi dewis cefnogi Sefydliad y Galon Cymru yn ystod ei Llywyddiaeth. Mae Sefydliad y Galon yn weithgar iawn yn ariannu ymchwil nyrsys arbenigol, yn ariannu diffibrilwyr lle mae’r angen, ac yn cynhyrchu pamffledi gwybodaeth ddwyieithog.
- Codi ymwybyddiaeth o beryglon clefyd y galon, yn enwedig ymysg merched
- Gofyn i bob cangen gynnal o leia’ un noson o hyfforddiant cymorth cyntaf a sgiliau achub bywyd
- Holi yn eich ardal ble mae yna ddiffib yn barod, cofnodi’r lleoliad a chasglu’r wybodaeth fesul rhanbarth
- I godi arian at yr elusen byddwn yn casglu Ategolion at y Galon a chesglir cyfareddwyr, menig, sgarffiau, beltiau a gemwaith. Derbynnir gleiniau (beads) ac unrhyw emwaith hefyd sydd wedi torri. Gofynnwn yn garedig i chi ddod â’r eitemau wedi eu didoli’n barod h.y. gemwaith mewn un bag a sgarffiau mewn bag arall a.y.b. Os yw’r gemwaith yn fach iawn dylid eu rhoi mewn bagiau unigol os gwelwch yn dda. Mae llawer iawn o eitemau wedi cyrraedd y Ganolfan yn barod, ac rwy’n siŵr fydd y prosiect yma eto’r un mor llwyddiannus â’r bagiau.
- Annog y clybiau cerdded o wahanol ardaloedd i gysylltu â’i gilydd er mwyn dod i adnabod Cymru a’u cyd aelodau yn well.
- Cydweithio gydag asiantaethau a darparwyr Iechyd a Gofal i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd cyfathrebu drwy’r Gymraeg.

PROSIECTAU’R LLYWYDD 2012-2014 – GILL GRIFFITHS DRAMA, DYSGWYR A DAIONI
Thema Gill Griffiths, ein Llywydd Cenedlaethol yw ‘Drama, Dysgwyr a Daioni’.
Rydym wedi cychwyn casglu bagiau ac fe lawnsiwyd yr ymgyrch yma yn y Penwythnos Preswyl yn Llanbedr Pont Steffan. Byddwn yn derbyn unrhyw fagiau, mewn unrhyw gyflwr. Ewch ati i edrych yn y cypyrddau ac fe fyddwn yn ddiolchgar iawn i chi. Byddant yn cael eu trosglwyddo i Gymorth Cristnogol sef elusen ein Llywydd am eleni. Bydd y rhai sydd wedi torri yn cael eu hailgylchu a’r rhai sydd mewn cyflwr da yn cael eu gwerthu ar stondin yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Cystadleuaeth Ysgrifennu Drama fer ar y cyd rhwng Theatr Genedlaethol Cymru a Merched y Wawr a mewn cydweithrediad â’r Galeri a Chanolfan Mileniwm Cymru. Bydd gwobr o £300 i’r drama fuddugol a gobeithir ei pherfformio flwyddyn nesaf.
Cynhelir cyrsiau sgriptio i aelodau Merched y Wawr ar 17 Tachwedd, un yng Nghanolfan y Mileniwm gyda Sera Moore Williams a’r llall yn y Galeri, Caernarfon gydag Aled Jones Williams. Cliciwch yma i ddarllen mwy …
Cliciwch yma i ddarllen rheolau’r gystadleuaeth a manylion y cyrsiau sgriptio …
PROSIECTAU LLYWYDD 2010-2012 – MERERID JONES
PROSIECT BLYCHAU ADAR
Lansiwyd prosiect blychod adar Merched y Wawr gan Kelvin Jones, Swyddog Datblygu Ymddiriedolaeth Adareg Cymru yn ystod Penwythnos Preswyl Bwrlwm a Bantams Bangor. Cliciwch yma am ganllawiau BTO Cymru …
Ffurflen i gofnodi hynt yr adar yn eich blychau nythu. Rhan o gynllun y BTO.
CASGLU ALLWEDDI/AGORIADAU
ALLWEDD
Mae Merched y Wawr yn casglu allweddi/agoriadau i’w hailgylchu.
Os oes gennych hen allweddi/agoriadau byddwn yn ddiolchgar iawn i’w derbyn.
AGORIADAU
Am fanylion pellach, cysylltwch â’r Ganolfan Genedlaethol ar 01970 611661 neu swyddfa@merchedywawr.com