Hafan > Hygyrchedd


Hygyrchedd


Hygyrchedd a chymorth i ddefnyddio merchedywawr.cymru 

Rydym yn ceisio gwneud y wefan mor hygyrch a hawdd i’w defnyddio â phosibl ar gyfer pawb.

Os cewch unrhyw drafferth defnyddio’r wefan gadewch i ni wybod os gwelwch yn dda. Gallwch e-bostio eich problem atom (gan nodi’r porwr a’r system weithredu a ddefnyddiwch) drwy yrru’r wybodaeth at canolfan@merchedywawr.cymru

Os ydych yn cael trafferth defnyddio llygoden neu allweddell:

  • Gwneud eich llygoden yn haws i’w ddefnyddio (linc i ddilyn)
  • Darganfyddwch ddulliau amgen i ddefnyddio allweddell neu lygoden(linc i ddilyn)

Os nad yw eich golwg yn dda:

  • Cynyddu maint y testun yn eich porwr we (linc i ddilyn)
  • Newid lliwiau testun a chefndir i’w gwneud yn haws i’w darllen (linc i ddilyn)

Os ydych yn ddall:

  • Darganfod darllenwyr sgrin a phorwyr sy’n siarad (linc i ddilyn)

Cynnwys a linciau eglur

Fel rhan o’n proses o wella’n gwasanaeth, rydym wedi ail ysgrifennu a byrhau llawer o’r deunydd ar ein gwefan gan symleiddio pethau lle bo’ modd. Ceisiwn sicrhau fod linciau yn cael eu disgrifio’n rhesymegol (yn hytrach na ‘cliciwch yma’) er mwyn gwneud synnwyr o’r cyd-destun.  Lle bo’n addas, crëwyd linciau gyda theitlau sy’n egluro pwrpas y linc honno’n llawn.

I’r rhai sy’n defnyddio darllenwyr sgriniau, rydym wedi darparu linciau sy’n eich galluogi i osgoi cychwyn o’r brif dudalen agoriadol. Noder na fydd y ‘skip links’ i’w weld gan y rhai sy’n defnyddio porwyr cyffredin, heblaw mewn ambell sefyllfa (atal “stylesheets” neu ddefnyddio’r allweddell ar gyfer llywio).

Nodyn ar Safonau Hygyrchedd

Ceisiwn gydymffurfio gydag arweiniad Consortiwm y We Fyd-eang (World Wide Web Consortium’s (W3C)) ar gyfer hygyrchedd.  Dilynwn broses barhaus o ail werthuso ac rydym yn gweithio trwy’r amser er mwyn creu gwefannau sy’n fwy hygyrch i unigolion gydag anableddau, lle bydd technoleg a safonau’n caniatáu.

Mae hyn yn cynnwys Arweiniad – W3C’s Web Content Accessibility Guidelines (WCAG 2.0), sy’n cynnwys cyfres o lefelau ar gyfer cydymffurfio y gellir eu defnyddio er mwyn adolygu cynnwys gwefannau at ddibenion hygyrchedd. Adolygwyd y safle yn unol â’r canllawiau hyn ac, yn y mwyafrif o achosion, llwyddwyd i gyrraedd statws A neu AA.

Ffeiliau Dogfen Symudol (Portable Document Files (PDFs))

Mae peth cynnwys wedi ei roi ar ffurf PDF. I weld y dogfennau yma drwy eich porwr mae’n rhaid i chi gael meddalwedd Adobe’s Acrobat Reader software.  Mae’r meddalwedd hwn ar gael yn rhad ac am ddim os nad yw eisoes ar eich system.  Gellir ei lawrlwytho o wefan Adobe. Am ragor o fanylion ewch i PDFs and accessibility.

Colophon

Datblygwyd y safle hwn gan ddefnyddio’r safonau gwe diweddaraf megis HTML5 a CSS3, a’i helaethu trwy ddefnyddio llyfrgelloedd jQuery JavaScript. Cynlluniwyd y safle i weithio ar unrhyw borwr ac ar unrhyw fath o gyfrifiadur neu ddyfais arall.